Sylfaenydd Tŷ Tawe yn galw am fwy o ganolfannau tebyg

Heini Gruffudd
Image caption Mae Heini Gruffudd eisiau gweld canolfannau eraill fel Tŷ Tawe ar draws Cymru

Ar ben blwydd Tŷ Tawe yn 30 mae un o'r sylfaenwyr yn dweud y byddai cael 100 o ganolfannau tebyg ar draws Cymru yn gymorth i ddyfodol yr iaith.

Wrth edrych tua'r dyfodol dywedodd Heini Gruffudd wrth Cymru Fyw: "Bydden i'n hoffi gweld cant o ganolfannau ar draws Cymru - i ddweud y gwir wi'n credu bod angen hynny ar yr iaith.

"Yma yn Abertawe, er enghraifft, mi allen ni gael rhyw fath o is-ganolfannau mewn ardaloedd fel Treforus."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi gwario £2,412,566 ers mis Awst 2014 ar ganolfannau iaith ar draws Cymru er mwyn, "hybu'r defnydd o, a throchi yn, y Gymraeg."

Maent hefyd yn dweud nad oes yna fwriad ar hyn o bryd i sefydlu canolfannau eraill ond eu bod yn parhau i'w monitro a "monitro'r galw mewn ardaloedd eraill."

Her y dyddiau cynnar

Roedd y dyddiau cynnar yn dipyn o her yn Abertawe meddai Heini Gruffudd, ond roedd yr ewyllys yno gan y dysgwyr a phobl leol.

"Y dysgwyr oedd y symbyliad gwreiddiol ar gyfer cael canolfan. Roeddent yn cael gwersi nosweithiol ac ro'dd e'n bwysig iddyn nhw gael lle i ymarfer eu Cymraeg.

"Ar y pryd doedd 'na ddim siop Gymraeg yn y ddinas gan fod siop Tŷ John Penri wedi cau ac ro'dd y dysgwyr yn tueddu i fynd i gymysgu mewn tafarn yn y dre.

"Wedi cyfarfod cyhoeddus adeg Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1982 dyma fynd ati o ddifri i godi arian a dod o hyd i adeilad.

"Roedd 'na ychydig o anghytundeb a ddylid rhentu neu brynu ond penderfynu prynu yn diwedd ac erbyn heddi ry'n yn falch ein bod wedi gwneud hynny."

Rhyw £45,000 oedd pris yr adeilad gwreiddiol ac fe gafodd y sylfaenwyr £15,000 o gefnogaeth gan TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) ac hefyd benthyciad di-log o £10,000 gan Gyngor Abertawe.

Tŷ Tawe yn batrwm

Roedd yna waith i'w wneud ar yr adeilad ond mae'n dweud bod yna wirfoddolwyr oedd gyda sgiliau i'w helpu fel penseiri a trydanwyr.

"O brynu'r adeilad ry'n ni hefyd wedi bod yn ffodus o gael grantiau Ewropeaidd.

"Rwy'n credu bod canolfan Tŷ Tawe yn dangos bod canolfannau o'r math yn gallu llwyddo - mae'r canolfannau iaith yn ganlyniad o lwyddiant lleoedd fel Tŷ Tawe.

"Dwi'n meddwl be 'naethon ni i ddweud y gwir, drwy gael canolfan, oedd efelychu yr hyn a wnaed yng Ngwlad y Basg.

"Yn bendant mae'r cyfan wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

"Wrth i'r capeli ddirywio mae angen canolfannau fel hyn ar draws Cymru - mae angen hynny ar yr iaith ac i wireddu y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050."

Image copyright Tŷ Tawe
Image caption Asbri Tŷ Tawe yn y dyddiau cynnar

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae £2,412,566 wedi ei wario ar ganolfannau iaith ers haf 2014.

Yn eu plith mae Y Lle yn Llanelli, Yr Atom yng Nghaerfyrddin, Yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd a Popdy ym Mangor a'r bwriad yw, "hybu'r defnydd o, a throchi yn, y Gymraeg.

Dywedodd y llefarydd hefyd: "Nod y cyllid cyfalaf hwn yw rhoi cymorth i sefydlu prosiectau strategol a fydd yn rhoi hwb i agenda bolisi'r Gymraeg, gyda phwyslais ar ddarparu sylfaen i brosiectau cymunedol fod yn hunangynhaliol.

"Cafodd y cyllid ei sianelu drwy awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach a phrifysgolion sydd wedi dangos dulliau arloesol o hyrwyddo'r Gymraeg."

Mae'r llywodraeth yn dweud nad oes cronfa i sefydlu canolfannau eraill ar hyn o bryd ond eu bod yn parhau i'w monitro a'r galw am rhai newydd mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.

Yn ystod yr wythnos bydd nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn Nhŷ Tawe i nodi'r pen blwydd gan gynnwys cyngerdd, sesiwn werin, gig a noson prifeirdd.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol