Pleidiol wyf i'm cyfandir

Un o'r pethau mwyaf pleserus ynghylch y jobyn yma yw bod dyn yn cael cyfle o bryd i gilydd i annerch a chwrdd â rhai o'r criwiau o fyfyrwyr ysgol sy'n ymweld â'r bae fel rhan o'u cyrsiau BAC. Ysgol David Hughes, Porthaethwy oedd yma'r wythnos hon ac effaith Brexit ar Gymru oedd thema eu dadl yn Siambr Hywel, siambr wreiddiol y Cynulliad.

Gofynnwyd i mi blannu ambell haden yn eu pennau nhw ac fe awgrymais fod eu canfyddiad o'r pwnc yn debyg o fod yn seiliedig ar yr hyn yr oedden nhw'n teimlo ynghylch eu cenedligrwydd a'i hunaniaeth nhw'i hun.

Dyma ofyn pedwar cwestiwn felly gan ddechrau gyda faint o chweched David Hughes sy'n teimlo'n falch o fod yn Gymry? Fe gododd rhyw tri chwarter o'r dorf eu dwylo. Faint oedd yn falch o fod yn Saeson, tybed? Rhyw hanner dwsin oedd yr ateb ac roedd oddeutu'r un nifer yn ymfalchïo mewn Prydeindod. Chi'n synhwyro beth sy'n dod nesaf. Sawl myfyriwr oedd yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn Ewropeaid? Bron pawb.

Nawr mae'n bosib y byddai myfyrwyr o ryw ysgol arall yn teimlo'n wahanol ond rwy'n amau hynny rhywsut.

Yr wythnos hon ym Manceinion roedd y Ceidwadwyr yn poeni eu boliau ynghylch llwyddiant y blaid Lafur i apelio nid yn unig i'r ifanc ond i bobol canol oed hefyd. Yn ôl arolwg gan Opininium i'r Social Market Foundation dim ond 19% o bobol dan 45 sy'n credu bod y Ceidwadwyr ar eu hochr nhw. Roedd 50% yn credu bod hynny'n wir am Lafur. Does dim rhyfedd bod y Torïaid yn arswydo.

Ond beth sydd gan bawb o dan 45 yn gyffredin? Fe gawson nhw eu geni a'u magu'n ddinasyddion Ewropeaidd.

Un o sloganau effeithiol yr ochor 'gadael' yn y refferendwm oedd "I want my country back". Roedd gan honno apêl arbennig i'r rheiny sy'n hiraethu am fyd o Vera Lynn a sôs HP.

Ond beth am y rheiny sy' nawr yn datgan "I want my continent back"? Oes modd i'r Ceidwadwyr siarad â'r rheiny? Dydw i ddim yn meddwl bod yna ac yn sicr mae'r rheiny sy'n meddwl mai'r ateb yw Boris Johnson neu Jacob Rees-Mogg yn gofyn y cwestiwn anghywir.