Charlotte Church wedi priodi Jonathan Powell mewn seremoni gyfrinachol

Llun Charlotte Church o'i phriodas Image copyright Elliot Cooper @cooperexplores
Image caption Cyhoeddodd Charlotte Church ar Twitter ei bod wedi priodi Jonathan Powell

Mae'r gantores Charlotte Church wedi priodi ei phartner Jonathan Powell mewn seremoni gyfrinachol.

Fe briododd y berfformwraig 31 oed a'r cerddor 30 oed yn Swyddfa Gofrestru Caerdydd ar 16 Medi gyda seremoni hefyd yn eu cartref yn Ninas Powys.

Fe wnaeth eu gwesteion gadw'r newyddion yn dawel ond fe gyhoeddodd y cwpl y newyddion ar Twitter fore Mercher, 4 Hydref.

Mae'r neges yn cynnwys llun o'r cwpl hapus ar ddiwrnod eu priodas a neges gan Charlotte Church i'w 166,000 o ddilynwyr yn dweud ei bod yn "hynod o hapus".

Wythnos cyn y briodas roedd hi'n un o berfformwyr Gŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion gyda'i band Pop Dungeon.

Image caption Charlotte Church ar lwyfan Gŵyl Rhif 6 gyda Pop Dungeon

Mae hi'n fam i Ruby, naw oed, a Dexter, wyth, o'i pherthynas flaenorol gyda'r chwaraewr rygbi Gavin Henson.

Cyhoeddodd ar Twitter ym mis Mehefin ei bod hi a Jonathan wedi colli babi.

Straeon perthnasol