Y Gynghrair Genedlaethol: Halifax 0-0 Wrecsam

Dean Keates Image copyright Getty Images
Image caption Dyw Dean Keates heb weld ei dîm yn colli yn y gynghrair ers naw gêm

Mae Wrecsam yn aros yn chweched yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol ar ôl gêm gyfartal oddi cartref yn Halifax.

Roedd golwr Halifax, Sam Johnson yn brysur yn yr hanner cyntaf wrth i Wrecsam gael sawl cyfle.

Cafodd Chris Holroyd ac Alex Reid gyfleoedd pellach i'r ymwelwyr yn gynnar yn yr ail hanner, ond doedden nhw methu canfod y gôl hollbwysig.

Roedd y Dreigiau hefyd yn ddiolchgar am faner y llumanwr pan lwyddodd Tom Denton i roi'r bêl yn y rhwyd tra'n camsefyll.

Pynciau Cysylltiedig