Pam bod y pêl-droedwyr ifanc talentog yn dewis Cymru?

Pam fod cymaint o bêl-droedwyr ifanc talentog gafodd eu geni y tu allan i Gymru bellach yn dewis chwarae dros y wlad er eu bod nhw'n gymwys i gynrychioli gwledydd eraill hefyd? Golwr Cymru, Owain Fôn Williams, a Cledwyn Ashford o Gymdeithas Bêl-droed Cymru sydd yn esbonio.

Image copyright Getty Images
Image caption (O'r chwith): Ben Woodburn, Ethan Ampadu a David Brooks - tri o sêr ifanc tim pêl-droed Cymru

Pan gyhoeddwyd carfan ddiweddaraf Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Georgia ac Iwerddon yr wythnos hon, un enw gipiodd y penawdau - David Brooks.

Dyma oedd y tro cyntaf i'r llanc 20 oed gael ei enwi, ond beth ddenodd y sylw oedd y ffaith mai fo oedd y diweddaraf yn y garfan i gael ei eni yn Lloegr.

Nid dim ond hynny, ond roedd Brooks wedi chwarae dros un o dimau ieuenctid Lloegr dros yr haf, gan wrthod y cyfle i gynrychioli'r crysau cochion yn yr un gystadleuaeth.

Roedd rhai yn y cyfryngau, sylwebwyr a chefnogwyr o'r ochr arall i Glawdd Offa yn sydyn i gwestiynu'r penderfyniad, gan awgrymu unwaith eto fod Cymru wedi cipio talent ddawnus arall oddi ar eu cymdogion.

Image copyright Getty Images
Image caption Dave Edwards, Sam Vokes a David Brooks yn ymarfer cyn i Gymru wynebu Georgia nos Wener

Ond yn ôl un sydd wedi gweithio'n agos â chwaraewyr ieuenctid Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, mae sylwadau o'r fath yn "chwerthinllyd".

"Mae 'na flynyddoedd maith lle 'dan ni wedi bod yn 'neud hyn rŵan a doedden nhw erioed 'di sôn dim byd," meddai Cledwyn Ashford, Swyddog Gofal Ieuenctid gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

"Unwaith 'dan ni'n cael llwyddiant 'efo'r tîm cyntaf yn arbennig, ond hefyd 'efo'r oedrannau eraill, maen nhw'n dechrau 'neud tipyn bach o sŵn am y peth.

"Mae timau rygbi, criced a phêl-droed 'di bod yn 'neud hyn ers blynyddoedd, felly 'di o'n ddim byd newydd.

"Ond mae Cymru 'di bod yn llwyddiannus dros ben dros y blynyddoedd diwethaf yma i gael yr hogiau mewn i'r garfan, ac maen nhw [Lloegr] yn meddwl hwyrach bod nhw 'di colli allan."

Lloegr ar y ffôn

Brooks yw'r diweddaraf mewn cyfres o chwaraewyr ifanc talentog sydd wedi dewis gwlad ei gyndeidiau dros wlad ei febyd.

Fis yn ôl fe enillodd Ben Woodburn, hogyn 17 oed gafodd ei eni yn Nottingham, ei gapiau cyntaf dros Gymru a gwneud ei farc yn syth.

Mae Ethan Ampadu - wnaeth symud o glwb ei dref enedigol, Caerwysg, i Chelsea dros yr haf - yn laslanc arall sydd yn y garfan ac yn cael ei ystyried fel un o sêr y dyfodol.

Nid patrwm newydd mo hyn - cafodd 12 o chwaraewyr y garfan bresennol eu geni yn Lloegr, gan gynnwys y capten Ashley Williams.

Image copyright Getty Images
Image caption Ben Woodburn a Gareth Bale yn dathlu wedi i'r llanc ifanc sgorio'r gôl fuddugol yn erbyn Awstria ar ei gap cyntaf

Ond y cyhuddiad yn y gorffennol oedd bod chwaraewyr yn dewis gwisgo'r crys coch am nad oedden nhw'n ddigon da i'r crys gwyn - mae'r genhedlaeth newydd ar y llaw arall yn dewis Cymru er gwaethaf cynigion gan Loegr.

"Fyswn i'n sicr ddim yn meddwl fod nhw'n ddigon da i Gymru ond ddim digon da i Loegr," meddai Cledwyn Ashford.

"Dwi'n gwybod fod nhw'n cael phonecalls a phobl ar eu holau nhw eisiau iddyn nhw chwarae i Loegr.

"Ond mae eu calon nhw yng Nghymru, ac yng Nghymru fydd o am byth dwi'n gobeithio."

'Rhan o'r teulu'

Sut felly y mae Cymru wedi llwyddo i berswadio cymaint ohonyn nhw mai gyda'r crys coch y mae eu dyfodol rhyngwladol?

Mae'r broses yn mynd yn ôl dros ddegawd, yng nghyfnod John Toshack gyda'r tîm cyntaf, gyda Brian Flynn yn gyfrifol am ganfod y dalent newydd drwy'r system ieuenctid.

Mae'r gwaith hwnnw bellach yn nwylo Gus Williams, Rheolwr Adnabod Talent CBDC, ac Osian Roberts sydd yn pontio'i waith fel Cyfarwyddwr Technegol Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru gyda'i rôl fel is-reolwr y tîm cyntaf.

Mae'r gwaith yn drylwyr, gyda CBDC yn cadw cofnod o chwaraewyr sydd yn gymwys i gynrychioli Cymru - y rhan fwyaf o academïau clybiau yn Lloegr, ond rhai o wledydd mor bell â Sbaen a'r UDA.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth y gwaith gyda'r chwaraewyr ifanc ddwyn ffrwyth yn 2014 wrth i dîm dan-16 Cymru ennill cystadleuaeth y Victory Shield am y tro cyntaf mewn 66 mlynedd

Yna mae gwahoddiadau'n cael eu hymestyn i ymuno â charfanau ieuenctid, ac mae'r broses yn parhau drwy'r timau dan-16 hyd at dan-21.

"Maen nhw'n teimlo'n rhan o'r teulu, a dwi'n meddwl dyna'r peth pwysicaf," esboniodd Cledwyn Ashford.

"Maen nhw'n edrych ar ôl yr hogiau yma, maen nhw'n neud siŵr bod nhw'n teimlo'n gartrefol, a hefyd wrth gwrs yr hyfforddi gan Osian a'i griw ydy'r gorau fysa ti'n medru'i gael.

"Felly mae'n cychwyn yn gynnar iawn, ac mae fyny iddyn nhw pwy maen nhw'n dewis cynrychioli wedyn."

Nid ar y cae pêl-droed yn unig y mae'r addysg yn digwydd chwaith.

"'Dan ni'n sôn am yr hanes, 'dan ni'n sôn am y cyfrifoldeb sydd ganddyn nhw, a 'dan ni'n sôn am y balchder sydd 'na o wisgo'r crys, a dwi'n gwybod fod Chris Coleman ac Osian efo'r tîm cyntaf yn 'neud union yr un peth."

'Efo'r hogiau mawr

Erbyn iddyn nhw gyrraedd y tîm cyntaf does neb yn cwestiynu eu man geni na'u hymroddiad i'r achos, yn ôl golwr Cymru Owain Fôn Williams.

"'Di o ddim yn codi i fod yn onest, mae'r hogiau jyst yn get on with it yn y garfan," meddai wrth Cymru Fyw.

"Maen nhw i gyd yn gwybod pam eu bod nhw yna, maen nhw i gyd yna i 'neud un job, a hwnnw ydi i guro gemau a neud yn saff bod Cymru'n mynd yn eu blaenau a bod pawb ar yr un dudalen."

Image copyright Getty Images
Image caption Dyw man geni nac ymroddiad yn faterion sy'n codi o fewn y garfan meddai Owain Fôn Williams

Mae'r chwaraewyr hŷn hefyd yn gwneud eu gorau i wneud i'r wynebau newydd deimlo'n gyfforddus, a goresgyn y nerfusrwydd allai godi o rannu ystafell newid â sêr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey.

"Cymera Ethan Ampadu, roedd o 'efo ni yn yr haf yn ymarfer, ac roedd o'n astudio ar gyfer ei TGAU tra bod o ffwrdd 'efo ni'n ymarfer," meddai Owain Fôn.

"I hogyn 16 oed fod yna 'efo hogiau fel Ramsey, ac yn gorfod marcio rhywun fel Bale... i ddechrau 'efo hi mae o ychydig bach fel 'blydi hel, dwi yn fan 'ma efo'r hogiau mawr'.

"Ond o fewn 10 munud ti'n sylweddoli'n syth fod yr hogiau yna fel pawb arall, ac o fanno mae'r bond yn digwydd.

"Does 'na ddim ego, mae boi fel Gareth Bale union 'run fath â'r boi sy'n byw drws nesa i chdi o ran mae o mor naturiol â hynny. Does 'na ddim byd yn mynd i'w ben o, ac mae hynny'n helpu pawb sy'n dod i mewn i'r garfan."

Image copyright Getty Images
Image caption Osian Roberts (chwith) yw'r prif gysylltiad rhwng y timau ieuenctid a'r tîm cyntaf, sydd dan reolaeth Chris Coleman

Mae Owain Fôn yn ffyddiog hefyd nad oes unrhyw gapiau rhad yn cael eu rhoi, gan glymu'r chwaraewyr ifanc i Gymru dim ond er mwyn i atal gwledydd eraill rhag eu temtio.

"Pan ti yn y garfan, ti yn y garfan am reswm, am bod chdi ddigon da," meddai.

"Mae gan Chris Coleman a'r staff hyfforddi ffydd enfawr yn yr hogiau ifanc 'ma i ddod ymlaen, ac os ydyn nhw'n gorfod defnyddio nhw ar y cae, mae o 'efo digon o ffydd ynddyn nhw i 'neud y job, neu fel arall fysan nhw ddim yn y garfan.

"Ella fod nhw ddim yn cael dechrau'n syth bin, ond gan bod nhw yn y garfan, maen nhw'n cael eu bwydo mewn i beth sydd i ddisgwyl oddi wrthyn nhw gan Chris Coleman.

"Maen nhw'n gweld chwaraewr fel Ramsey a Bale, ac wedyn maen nhw in house yn gweld bob dim am y tîm."

Dilynwch lif byw arbennig o gêm Cymru yn erbyn Georgia ar 6 Hydref o 16:30 ar wefan Cymru Fyw.

Straeon perthnasol