Cyhoeddi cynllun atyniad dan do 'unigryw' Bluestone

SKYDOME Image copyright Bluestone

Mae pentref gwyliau yn Sir Benfro wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer atyniad dan do unigryw.

Mae disgwyl i'r atyniad dan do, fydd yn 7,000 metr sgwâr gael ei adeiladu yn Bluestone, gan greu mwy na 300 o swyddi yn y dyfodol.

Yn ôl y cynlluniau bydd y SkyDome yn costio £3m, ac yn cymryd 15 mis i'w adeiladu cyn agor i'r cyhoedd yn y gwanwyn yn 2019.

Yn ôl Prif Weithredwr Bluestone, William McNamara, y syniad y tu ôl i'r atyniad yw ceisio "gosod y tu allan y tu fewn".

Ffeithiau SkyDome:

  • Hyd: 116m
  • Lled: 77m
  • Arwynebedd: 7,000 metr sgwâr
  • Cyfnod adeiladu: 60 wythnos

Mae'r cynlluniau yn cynnwys amffitheatr gyda lle i 600 o bobl, caffis, cwrs rhaffau uchel, gweithgareddau crefft a safleoedd chwarae.

Bydd glaswellt naturiol a choed yn tyfu yn yr atyniad fydd yn "parhau ethos ecolegol y pentref", a bydd y to tryloyw, sy'n yn mesur hyd cae pêl-droed, yn creu teimlad o fod yn yr awyr agored, meddai'r cwmni.

Image copyright Bluestone
Image caption Bydd nifer o weithgareddau yn y SkyDome, ond y bwriad yw creu teimlad o fod yn yr awyr agored meddai'r cwmni

Mae'r cwmni hefyd yn dweud y bydd £22m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi yn yr economi leol dros 10 mlynedd, a hynny'n cynnwys £3m i gontractwyr lleol yn ystod y broses adeiladu.

Ychwanegodd Mr McNamara: "Rydym yn edrych ar y cynllun yma fel hwb mawr i dwristiaeth ar gyfer Bluestone a Sir Benfro, fydd yn cynnig gwyliau i deuluoedd drwy'r flwyddyn ymhob tywydd."