'Anaf Bale heb effeithio hyder'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Joe Allen: 'Anaf Bale heb effeithio hyder'

3 Hydref 2017 Diweddarwyd 18:29 BST

Mae'r teimlad o fewn carfan bêl-droed Cymru yn parhau yn dda, yn ôl y chwaraewr canol cae Joe Allen, a hynny er yr anaf i Gareth Bale.

Cadarnhaodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru na fyddai Bale yn chwarae yn nwy gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Georgia a Gweriniaeth Iwerddon.

Er yr ergyd, dywedodd Allen bod digon o brofiad yn y garfan i ymdopi gyda'r sefyllfa, a bod digon o chwaraewyr eraill yn gallu dod i mewn i'r tîm.