Dyn wedi marw wedi gwrthdrawiad ar yr A470 ger Aberhonddu

Storey Arms Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A470 yn ardal Storey Arms ger Aberhonddu

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar a lori ar yr A470 ym Mhowys ddydd Llun.

Roedd y dyn yn gyrru car Skoda oedd yn rhan o'r ddamwain yn ardal Storey Arms rhwng Merthyr Tudful ac Aberhonddu.

Mae gyrrwr y car arall yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod yn galw ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â fideo o ardal y ddamwain i gysylltu â nhw.