Milwyr o Gymru'n helpu yn ystod ymosodiad Las Vegas

Ymosodiad Las Vegas Image copyright Reuters

Mae'r fyddin wedi cadarnhau fod milwyr o Gymru wedi helpu rhai o'r bobl gafodd eu dal yn yr ymosodiad yn Las Vegas nos Sul.

Roedd tua 22,000 o bobl yn yr ŵyl canu gwlad, pan ddechreuodd Stephen Paddock saethu at y dorf o lawr 32 gwesty'r Mandalay Bay.

Fe gafodd o leiaf 59 o bobl eu lladd a dros 500 eu hanafu.

Cadarnhaodd y fyddin fod milwyr o Gatrawd Gymreig y Queen's Dragoon Guards yn aros mewn gwesty gerllaw ar ôl bod yn ymarfer yn yr anialwch yn Nevada.

Mae'r BBC'n deall fod tri o'r milwyr yn yr ardal pan ddigwyddodd y saethu, a'u bod wedi helpu drwy drin rhai o'r bobl gafodd eu hanafu a chynorthwyo'r gwasanaethau brys.

Dywedodd llefarydd ar ran y fyddin: "Gallwn gadarnhau fod nifer o aelodau'r Queen's Dragoon Guards wedi rhoi cymorth i rai gafodd eu hanafu yn y saethu yn Las Vegas.

"Rydym yn meddwl y rhai sydd wedi eu heffeithio a'r weithred erchyll hon."

Image copyright GETTY IMAGES
Image caption Fe gafodd yr ergydion eu tanio o westy'r Mandalay Bay

Ymhlith y miloedd oedd yn yr ŵyl pan ddigwyddodd yr ymosodiad oedd Sam Evans, 26 oed o Gaerdydd.

Roedd hi yno gyda'i mam, sy'n fethedig. Dywedodd fod pobl eraill wedi helpu i godi sgwter ei mam dros ffens er mwyn mynd i le diogel.

"Fe lwyddon ni i ddianc gyda help rhai Americanwyr gwych.

"Mae Mam wedi brifo'i chefn ac fe ges i anaf ar fy nhroed, ac mae'r sgwter wedi cael sawl ergyd.

"Ond ar hyn o bryd, rydym yn lwcus i fod yn fyw ac allwn ni ddim a bod yn hapusach am hynny."