'Wnaethon nhw fy llusgo ar draws yr iard'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Catalunya: 'Wnaethon nhw fy llusgo ar draws yr iard'

2 Hydref 2017 Diweddarwyd 15:26 BST

Mae Cymro yn dweud iddo gael ei "lusgo" gan heddlu yn ystod y refferendwm ar annibyniaeth Catalunya.

Roedd Emyr Gruffydd yn gwirfoddoli mewn gorsaf bleidleisio yn Barcelona ddydd Sul pan ddaeth degau o blismyn i gymryd y blychau pleidleisio.

Mae Llywodraeth Catalunya'n dweud bod 750,000 o bleidleisiau heb eu cyfrif gan fod gorsafoedd wedi eu cau neu flychau wedi eu cymryd.

O'r pleidleisiau gafodd eu cyfrif, roedd 90% o blaid gadael Sbaen a ffurfio gweriniaeth annibynnol.

Mae Carles Puigdemont, arlywydd Catalunya, yn dweud bod ei bobl wedi "ennill yr hawl" i annibyniaeth. Ond yn ôl llywodraeth ganolog Sbaen ym Madrid, roedd y refferendwm yn anghyfreithlon ac yn "jôc".