Cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad

Dylan Williams Image copyright Heddlu De Cymru

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw beiciwr modur 19 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerffili ddydd Sul.

Bu farw Dylan Williams yn y gwrthdrawiad rhwng car a beic modur am tua 12:45 ar Heol Dyffryn yn Elliotstown, Tredegar Newydd.

Dywedodd ei deulu eu bod wedi "torri eu calonnau", ac y byddan nhw'n ei "golli am byth".

"Roedd yn fachgen oedd yn byw bywyd llawn, ond roedd ganddo galon sensitif, ofalgar a charedig," meddai'r teulu mewn datganiad.

Mae Heddlu De Cymru wedi apelio ar unrhyw un â gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu â'r llu ar 101.