Pro14: Dreigiau 29-13 Southern Kings

rygbi Image copyright Huw Evans picture agency

Fe sgoriodd Hallam Amos ddwywaith yn yr hanner cyntaf i sicrhau'r fantais gynnar i'r Dreigiau yn erbyn y Southern Kings o Dde Affrica nos Sadwrn.

Nid yw'r Kings wedi llwyddo i ennill yr un pwynt bonws eto, wedi cyfres o berfformiadau siomedig yn y gystadleuaeth.

Llwyddodd Elliott Dee, i sgorio ddwywaith yn yr ail hanner, gan selio buddugoliaeth y Dreigiau.

Daeth unig gais y Kings gan Andisa Ntsila.