Refferendwm Catalunya: Argraffiadau gohebydd

Catalunya Image copyright Getty Images

Does dim modd gwadu'r tensiynau gwleidyddol amlwg wrth i Gatalunya gynnal eu refferendwm hir ddisgwyliedig ar annibyniaeth.

Er bod llysoedd Sbaen wedi gwahardd y refferendwm, a llywodraeth Madrid wedi gwneud pob ymdrech i'w atal, fe fydd degau ar filoedd yn benderfynol o fwrw pleidlais ddydd Sul.

Mae miloedd lawer hefyd, wrth reswm, yn gwrthod y galwadau am annibyniaeth, ond does neb mae'n debyg yn medru ei anwybyddu.

Y cwestiwn mawr yw, beth nesa' ar ôl i'r anghydfod dros gynnal y bleidlais gyrraedd ei uchafbwynt?

Mae Emyr Gruffydd o Gaerffili yn un o'r gwirfoddolwyr sydd wedi cynnig helpu gyda'r gwaith o weinyddu'r refferendwm, a hynny wrth i weision sifil yng Nghatalunya wynebu gael eu herlyn os ydyn nhw'n cynorthwyo.

Dywedodd Mr Gruffydd, sy'n gyd-gadeirydd presennol mudiad Plaid Cymru Ifanc, a fu'n byw yn Barcelona am dair blynedd:

"Mae'n rhaid i bobl Catalunya fod yn ofalus nad ydyn nhw'n colli eu limpyn ac yn hytrach yn pleidleisio yn heddychlon fel y maen nhw wedi gwneud erioed.

"Sbaen sydd wedi colli hygrededd yn hyn - dim ond ishe pleidleisio y mae'r Catalaniaid, a dyw Sbaen heb ymateb i hynny yn y ffordd gywir."

Image caption Mae 'na ddigwyddiadau wedi bod yn cael eu cynnal ymhob rhan o Gatalunya yn arwain i fyny at ddiwrnod y refferendwm, er gwaethaf y ffaith fod llywodraeth Madrid wedi datgan fod y refferendwm yn anghyfreithlon

Miloedd o heddlu

Mae'r awdurdodau ym Madrid wedi anfon miloedd o heddlu i'r rhanbarth i darfu ar y bleidlais.

Maen nhw wedi meddiannu canolfan telegyfathrebu'r llywodraeth ddatganoledig ac yn bwriadu atal mynediad i orsafoedd pleidleisio.

Mae gwefannau sy'n cynnig gwybodaeth am y refferendwm, yn ogystal ag ap oedd wedi'i greu yn benodol ar gyfer y bleidlais, wedi'u diffodd.

Cyhuddo llywodraeth Catalwnia o annog rhaniadau a chasineb o fewn cymdeithas mae Madrid, gyda thwrnai cyffredinol Sbaen yn rhybuddio y gallai'r Arlywydd Caries Pugdemont wynebu cyhuddiadau o gamddefnyddio arian cyhoeddus.

Os yw'r niferoedd sy'n dewis neu sy'n llwyddo pleidleisio ddydd Sul yn isel yna mae swyddogion llywodraeth Catalwnia'n cydnabod yn breifat na fyddai modd gweithredu ar ganlyniad y refferendwm.

Image caption Dywed cyfreithwyr llywodraeth Sbaen y gall Arlywydd Catalunya, Caries Pugdemont wynebu cyhuddiadau o gamddefnyddio arian cyhoeddus

Ond maen nhw'n mynnu os bydd miliynau yn cyrraedd y blychau pleidleisio a mwyafrif clir o blaid torri'n rhydd o Sbaen yna y byddan nhw'n cyhoeddi eu bwriad i ffurfio gwlad annibynnol o fewn 48 awr.

Dadlau eu bod hi'n "anochel" y bydd Catalunya'n hawlio annibyniaeth maes o law - ond nid ar ôl y bleidlais hon - mae Mike Alger, Americanwr o dras Cymreig sy'n byw ac yn gweithio fel athro yn Barcelona.

"Dwi'n credu y bydd y llywodraeth geidwadol ym Madrid yn cwympo cyn hir oherwydd mae pobl drwy Sbaen wedi cael digon arnyn nhw. Yna bydd 'na etholiadau o'r newydd a refferendwm swyddogol ar annibyniaeth yn cael ei gynnal," meddai.

Dim ymgyrch 'Na'

O siarad â nifer o bobl yma yng Nghatalunya dyna yw'r teimlad amlwg - awydd i bleidleisio ond mewn refferendwm rhydd a theg sydd wedi derbyn sêl bendith y llywodraeth ganolog - fel y digwyddodd yn yr Alban yn ddiweddar.

Does 'na ddim ymgyrch 'na' wedi bod yn rhan o'r refferendwm, gan nad yw'r gwleidyddion sy'n gwrthwynebu annibyniaeth wedi bod yn fodlon ei gydnabod.

Er hynny mae 'na garfan amlwg iawn o boblogaeth y rhanbarth sy'n teimlo'n angerddol iawn dros annibyniaeth fel y mae'r protestiadau lu yn Barcelona a threfi a dinasoedd eraill Catalunya yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi ei amlygu.

Yr awgrym yw bod y garfan honno ar gynnydd, er i ni weld rali funud-olaf sylweddol hefyd gan Gatalaniaid sy'n ffafrio aros yn rhan o Sbaen.

Hollti barn

Mae'n bwnc sy'n sicr yn hollti barn.

Does ond yn rhaid i chi ofyn i ddau ffrind o Gymru sydd wedi byw yn Barcelona ers 30 o flynyddoedd.

Image caption Mae Iain H-annaidh ac Ifan Lloyd yn gyfeillion sy'n byw yn Barcelona, ond y naill yn berchen ar farn wahanol iawn am y refferendwm

Bu Iain H-annaidh, o Abertawe'n wreiddiol, yn ymgyrchu dros annibyniaeth ac yn un o nifer o bobl fu'n meddiannu rhai o ysgolion y rhanbarth fel bod modd eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio.

"Dyma chi genedl fach sydd am gael rhyddid i fod yn genedl go iawn," meddai.

Ond mae ei ffrind Ifan Lloyd, gafodd ei fagu yn Llanwrtyd, yn gweld pethau fel arall.

"Rwy'n meddwl bod Catalunya ddim wedi paratoi ar gyfer annibyniaeth. Bydden i'n cytuno gydag Iain yn gyfan gwbwl bod llawer gormod o ormes gan y llywodraeth ganolog ond nid torri'n rhydd yw'r ateb."

Straeon perthnasol