Pryderon am ffitrwydd Gareth Bale cyn gêm Georgia

bale Image copyright Rex Features

Mae ymosodwr Cymru, Gareth Bale yn wynebu prawf ffitrwydd hwyr cyn gêm Real Madrid yn erbyn Espanyol ddydd Sul.

Wrth i Gymru baratoi i wynebu Georgia yn y gyfres olaf o gemau rhagbrofol Cwpan y Byd ddydd Gwener, mae rheolwr Real Madrid, Zinedine Zidane, wedi dweud fod gan Bale "broblem fach" gyda'i goes.

"Fe welwn ni sut mae o ddydd Sul... gallai fod ar gael i ni," meddai Zidane.

"Mae ei gyhyrau wedi blino, nid yw'n rhywbeth difrifol. Ond, fel unrhyw sefyllfa, tyda ni ddim yn hoffi cymryd unrhyw risgiau."

Fe sgoriodd Bale gôl wych yng Nghynghrair Pencampwyr nos Fawrth, wrth i Real ennill o 3-1 yn erbyn Borussia Dortmund.

Ni lwyddodd Bale i orffen y gêm, gan ei fod wedi ei dynnu i ffwrdd cyn y diwedd ar ôl dioddef problem gyda'i goes.