Cyhuddo dyn o lofruddio dynes yng Nghaerdydd

Katherine Smith Image copyright Llun Teulu
Image caption Mae teulu Katherine Smith wedi rhoi teyrnged iddi

Mae dyn 46 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn cyfeiriad yng Nghaerdydd.

Daethpwyd o hyd i Katherine Smith, mam 26 oed, mewn eiddo ar Heol Trelai, Trelái, ddydd Iau.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod dyn, o ardal Glan yr Afon wedi ei arestio yn Weston-Super-Mare yng Ngwlad yr Haf.

Mae teulu Ms Smith wedi rhoi teyrnged iddi, gan ei disgrifio fel "merch hyfryd, ac yn chwaer a ffrind cariadus".

Dywedodd y teulu mewn datganiad: "Fe fydd colled fawr ar ôl Katherine. Rydym wedi'n syfrdanu gyda beth sydd wedi digwydd ac ni allant gredu beth sydd wedi digwydd iddi hi.

"Bydd ei merch hefyd yn ei cholli hi."