Bachwr Cymru, Scott Baldwin wedi'i frathu gan lew

Scott Baldwin Image copyright Huw Evans picture agency

Mae wedi dod i'r amlwg bod bachwr Cymru, Scott Baldwin wedi methu colled y Gweilch yn erbyn y Cheetahs ar ôl cael ei frathu ar ei law gan lew yn Ne Affrica.

Cafodd ei frathu mewn parc bywyd gwyllt wrth i'r Gweilch deithio i Dde Affrica am y tro cyntaf yn y Pro14.

Dywedodd prif hyfforddwr y Gweilch, Steve Tandy: "Fe wnaeth e frathu Scott ond pan dy'ch chi'n rhoi eich llaw mewn ffens ble mae 'na lew, yna fe gewch chi eich brathu.

"Roedd e wedi cael digon o rybudd ac roedd o'n eitha' gwirion gan Scott, ac mae'n eithaf lwcus."

Fe wnaeth y Gweilch golli'r gêm yn Bloemfontein o 44-25.

'Anwesu llew fel pe bai'n gath'

Ychwanegodd Tandy: "Dydw i ddim yn gwybod pa fath o raglenni bywyd gwyllt mae Scott wedi bod yn ei wylio ble dy'ch chi'n gallu anwesu llew ar ei ben fel pe bai'n gath fach.

"Mae'n un o'r pethau gwirionaf dwi erioed wedi bod yn rhan ohono, ond yn ffodus mae'n iawn a gobeithio y bydd yn ôl yn ffit yn yr wythnosau nesaf."

Ychwanegodd bod Baldwin wedi cael pwythau a'i fod wedi'i gymryd i'r ysbyty i wneud yn siŵr nad oedd wedi'i heintio.

Bydd yn dychwelyd i Gymru gyda'r garfan ddydd Sadwrn.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol