Y Ceidwadwyr Cymreig angen 'targedu'r dinasoedd mawr'

Andrew RT Davies

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig angen cynllun newydd i ennill pleidleisiau mewn dinasoedd mawr, yn ôl arweinydd y blaid yn y Cynulliad.

Yn siarad cyn cynhadledd flynyddol y blaid ym Manceinion, fe wnaeth Andrew RT Davies gyfaddef bod y blaid angen gwneud mwy i ddwyn perswâd ar etholwyr dinesig.

Fe wnaeth y blaid golli tair sedd yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mehefin, gan eu gadael ag wyth AS o Gymru.

Dyw'r blaid ddim yn cynrychioli unrhyw seddi dinesig yn y Cynulliad.

"Os ydych chi eisiau bod yn blaid genedlaethol mae'n rhaid i chi gynrychioli pob rhan o Gymru," meddai Mr Davies.

"Dyw hi ddim yn iawn nad oes gennym ni unrhyw aelodau Seneddol na'r Cynulliad mewn etholaethau yn ein dinasoedd mawr."

Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth y Ceidwadwyr golli sedd Gogledd Caerdydd i Lafur yn yr etholiad cyffredinol

Ychwanegodd bod y Ceidwadwyr angen gweithio ar lawr gwlad i ddeall anghenion etholwyr.

"Os ydych chi'n ymladd brwydr heb 'nabod maes y gad, dydych chi ddim am ennill y rhyfel," meddai.

Dywedodd bod "trafodaethau cyson" o fewn y blaid ar y mater a'u bod yn gwneud gwelliannau.

Galw am un arweinydd

Mae Mr Davies hefyd wedi galw i sefydlu un arweinydd pendant i'r blaid yng Nghymru.

Yn ystod yr ymgyrch ar gyfer yr etholiad cyffredinol fe wnaeth Mr Davies ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns ffraeo dros bwy fyddai'n cynrychioli'r Ceidwadwyr mewn dadl deledu.

Yn y pendraw, llefarydd y blaid ar iechyd, Darren Millar AC wnaeth eu cynrychioli.

Mae Mr Davies wedi bod yn arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad ers 2011, a dywedodd y byddai'n "anrhydedd parhau yn y swydd".

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol