Pro14: Cheetahs 44-25 Gweilch

Gweilch Image copyright Huw Evans picture agency

Cafodd y Gweilch eu trechu am y bedwaredd tro yn olynol wrth iddyn nhw gael cweir gan y Cheetahs yn Bloemfontein.

Fe wnaeth y bachwr Torsten van Jaarsveld sgorio dau gais i'r Cheetahs yn yr hanner cyntaf, gydag Ernst Stapelberg yn ychwanegu trosiad a gôl gosb.

Llwyddodd Rhys Webb a Kieron Fonotia i daro 'nôl i'r ymwelwyr, a helpodd Dan Biggar i roi'r Gweilch ar y blaen ar yr hanner.

Ond fe wnaeth dau gais Makazole Mapimpi ac un arall gan Johan Coetzee sicrhau'r fuddugoliaeth a phwynt bonws i'r tîm cartref.

Sgoriodd Dan Evans gais gysur yn hwyr yn y gêm, ond y clwb o Dde Affrica gafodd y gair olaf gyda chais gan Francois Venter.

Pynciau Cysylltiedig