Y cyn filwr, Henry Bolton yw arweinydd newydd UKIP

Henry Bolton Image copyright Getty Images
Image caption Henry Bolton yw pedwerydd arweinydd UKIP mewn ychydig dros flwyddyn

Yng nghynhadledd UKIP yn Torquay ddydd Gwener daeth cadarnhad mai Henry Bolton yw arweinydd newydd y blaid.

Fe wnaeth Mr Bolton, sy'n gyn filwr, sefyll i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd yng Nghaint yn 2016, ond fe ddaeth yn ail yn yr etholiad.

Dyma bedwerydd arweinydd y blaid mewn ychydig dros flwyddyn, ac mae UKIP wedi bod heb arweinydd ers i Paul Nuttall adael y swydd wedi'r etholiad cyffredinol eleni.

Fe enillodd Mr Bolton gyda 30% o'r bleidlais, gyda'r ymgyrchydd gwrth-Islam dadleuol, Anne Marie Waters, yn ail gyda 21.3% o'r 12,915 pleidlais.

Mae Ms Waters wedi hollti'r blaid gyda'i hymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth.

Mae gan UKIP bum Aelod Cynulliad yng Nghymru ac fe glywon nhw Mr Bolton yn addo "adfer hygrededd UKIP" yn ei araith gyntaf fel yr arweinydd newydd.

Straeon perthnasol