Gradd er anrhydedd i Clinton gan Brifysgol Abertawe

Hilary Clinton Image copyright Prifysgol Abertawe

Bydd Hillary Clinton yn cael gradd er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe fis nesaf pan mae'n ymweld â Chymru.

Bydd ymgeisydd arlywyddol yr UDA yn 2016 yn cael ei hanrhydeddu mewn seremoni yn y ddinas ar 14 Hydref.

Mae'n gydnabyddiaeth o'i gwaith yn hyrwyddo hawliau teuluoedd a phlant ar draws y byd.

Mae gan Ms Clinton, oedd yn ysgrifennydd gwladol i'r Arlywydd Obama, waed Cymreig ar ochr ei nain.

'Ffigwr o bwys rhyngwladol'

Dywedodd Prifysgol Abertawe fod ganddi werthoedd cyffredin â'u Harsyllfa ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc.

Ychwanegodd is-ganghellor y brifysgol, yr Athro Richard Davies ei bod yn "ffigwr o bwys rhyngwladol sylweddol ac un sy'n gysylltiedig â hawliau dynol".

"Mae'n wych ei bod hi wedi dewis Prifysgol Abertawe ar gyfer ei hymddangosiad cyhoeddus cyntaf ar yr ymweliad hwn â'r DU," meddai.

Ms Clinton oedd ymgeisydd y Democratiaid yn y ras arlywyddol llynedd, pan gollodd i Donald Trump.

Mae'n wraig i un o gyn-arlywyddion yr Unol Daleithiau, Bill Clinton.

Pynciau Cysylltiedig