Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yng Nghaerdydd

Heddlu
Image caption Heddlu ar leoliad yn Heol Trelai

Mae dyn 46 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff dynes gael ei ddarganfod mewn tŷ yng Nghaerdydd.

Fe gafodd corff y ddynes 26 oed ei ddarganfod ar Heol Trelái

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau bod y dyn wedi ei arestio yn ardal Weston-super-Mare yng Ngwlad yr Haf.

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio ardal y digwyddiad.

Straeon perthnasol