Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth dynes yng Nghaerdydd

corff
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i'r cyfeiriad ar Heol Trelái am 10:25 fore Iau

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio wedi i gorff dynes gael ei ganfod mewn tŷ yn ardal Trelái yng Nghaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar Heol Trelái am 10:25 fore Iau.

Mae'r ardal o gwmpas yr adeilad dan sylw wedi ei gau i'r cyhoedd wrth i'r heddlu barhau â'u hymchwiliad.

Pynciau Cysylltiedig