Morlyn: Ceidwadwyr yn galw ar May i 'fwrw ymlaen'

lagwn

Mae rhai o Geidwadwyr mwyaf blaenllaw Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Theresa May yn ei hannog i fwrw 'mlaen gyda chynllun morlyn Bae Abertawe.

Nid yw Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo'r prosiect gwerth £1.3bn hyd yma, gyda nifer o ddadleuon gwleidyddol yn codi ynglŷn â dyfodol y cynllun.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo gweinidogion yn Llundain o baratoi i "ddileu'r" cynllun.

Dywed Llywodraeth y DU eu bod yn parhau i drafod y cynllun, ac nid oes cytundeb ar faint y byddai'n rhaid i'r trethdalwr ei dalu.

Yn eu llythyr, dywedodd dros 20 o Geidwadwyr Cymreig fod y prosiect yn "feiddgar" ac y gallai "adfywio'r economi".

Maent hefyd yn dadlau y byddai rhoi'r gorau i'r cynllun yn tanseilio'r ffordd mae Llywodraeth y DU wedi addo darparu ar gyfer Cymru.

Cymhlethdodau

Mae Theresa May wedi dweud wrth BBC Cymru fod y "lagŵn yn wynebu cymhlethdodau".

Dywedodd Mrs May: "Mae hon yn dechnoleg wirioneddol ddiddorol ond wrth gwrs mae 'na broblemau. Wrth edrych ar y materion hyn mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn deg gyda threthdalwyr ac yn edrych ar yr holl faterion sy'n ymwneud â'r lagŵn.

"Mae yna rai cymhlethdodau, ac rydym yn parhau i edrych ar adolygiad Charles Hendry.

"Wrth gwrs, byddwn yn gwneud penderfyniad ynglŷn â hynny ond, beth sy'n bwysig ydi cydnabod y diddordeb sydd gan bobl yn ne Cymru ar y mater penodol hwn."

Image caption Dywed Theresa May fod y lagŵn yn wynebu cymhlethdodau

Byddai'r lagŵn arfaethedig yn cynnwys adeiladu morglawdd 9.5km oddi ar arfordir Abertawe, ac fe fydd yn cynnwys 16 o dyrbinau. Byddai'n cynhyrchu 320MW o drydan, gyda datblygwyr Tidal Lagoon Power yn cynnig pris o £89.90 yr awr am bob megawatt, am 90 mlynedd.

Bydd Hinkley Point C, yr atomfa niwclear newydd arfaethedig yng Ngwlad yr Haf, yn costio £92.50 yr awr am bob megawatt, a hynny am 35 mlynedd.

Yn eu llythyr, dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y byddai cynllun Abertawe "yn costio llai na phris peint o lefrith bob blwyddyn i gartrefi, ac fe fydd gam yn nes at y posibilrwydd o gynhyrchu pŵer o adnodd llanw a all gystadlu â chynhyrchwyr carbon isel sydd eisoes yn bodoli".

'Pathetig'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Rydyn ni'n gwybod bod arfordir de Cymru yn un o'r ffynonellau cryfaf yn y byd o ran ynni'r llanw, yn llythrennol dyma'r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd ac nid yw'n cael ei ddefnyddio, mae'n eistedd yno.

"Mae'n bosib ei ragweld, mae'n lân, bydd yn creu swyddi - beth sydd o'i le ar lywodraeth y DU na allant fwrw'r maen i'r wal?"

Heb y morlyn byddai'n anoddach i Lywodraeth Cymru gyrraedd ei darged o gynhyrchu 70% o ynni Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030, meddai Mr Jones. Y ffigwr presennol yw 32%.

Ychwanegodd llefarydd Llafur ar Gymru yn San Steffan, Christina Rees fod y llythyr agored yn "bathetig" ac yn dangos "cyn lleied o ddylanwad" oedd gan y Torïaid yng Nghymru ar eu cyd-bleidwyr yn Llundain.

"Mae angen bod yn glir fod y prosiect hanfodol hwn yn y fantol oherwydd difaterwch y llywodraeth Dorïaidd Brydeinig yma."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol