Morgannwg yn curo Caint o bum wiced

Michael Horgan Image copyright Asiantaeth Huw Evans
Image caption Dydd Mawrth, fe gipiodd capten Morgannwg, Michael Hogan, ei 500 wiced broffesiynnol yn ystod y gêm yng Nghaergaint

Mae Morgannwg wedi ennill ei gêm olaf o'r tymor yn ail adran Pencampwriaeth y siroedd o bum wiced.

Dyma oedd eu trydydd buddugoliaeth yn unig yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, sydd ar y cyfan wedi bod yn dymor siomedig.

189 oedd y targed yn erbyn Sir Caint yng Nghaergaint, ac ar y diwrnod olaf o chwarae fe gyrhaeddon nhw 192 o rediadau am 5 wiced.

Yn gynharach yn y dydd cipiodd capten Morgannwg, Michael Hogan ddeg wiced am 87 o rediadau - ei ffigyrau gorau erioed - wrth i'r Cymry ddi-sodli Sir Caint am 115 o rediadau.

Mae Morgannwg felly yn gorffen yn y seithfed safle yn yr ail adran, ddau safle yn is na Sir Caint.

Straeon perthnasol