Ian Jones
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Prif Weithredwr S4C: Y gynulleidfa yn 'haeddu gwell'

28 Medi 2017 Diweddarwyd 06:49 BST

Wrth iddo adael ei swydd fel prif weithredwr S4C, mae Ian Jones wedi dweud wrth raglen Manylu BBC Radio Cymru ei fod y credu bod cynulleidfa'r sianel yn "haeddu gwell" na'r ganran uchel o ailddarllediadau sydd yno ar hyn o bryd.

Mae 63% o'r rhaglenni yn ailddarllediadau ac mae'n dweud y byddai yn hoffi gweld "mwy o gynnwys gwreiddiol ar S4C."

Bydd rhaglen Manylu ar BBC Radio Cymru am 12:30 ddydd Iau.