Nid yw hon ar fap

Traeth Trefor, Penrhyn Llŷn Image copyright Mel Garside
Image caption Ydych chi'n defnyddio enw ar graig neu draeth sydd ddim ar fap?

Mae 'na lawer o sôn am warchod enwau lleoedd a sicrhau nad ydi enwau Cymraeg yn cael eu colli ond beth am enwau sydd heb eu cofnodi'n swyddogol yn unman?

Mae'r mapiwr Dafydd Elfryn wedi creu map rhyngweithiol i gasglu enwau lleol sydd ddim ar fapiau swyddogol ond sy'n cael eu defnyddio ar lafar.

"Mae gan bob cenhedlaeth ei enwau eu hunain am eu hardal leol, boed yn ddarn o dir, coedwig, afon neu adeilad," meddai.

"Mae'r enwau yna yn rhan o hanes ardal, a dwi'n meddwl bod hi'n bwysig trio cadw cofnod ohonynt cyn iddyn nhw ddiflannu.

"Mae'r map yma yn un ffordd o wneud hyn."

Er bod 'na restrau swyddogol gan Ordnance Survey a phrosiectau eraill ar y gweill i hel enwau hanesyddol roedd Dafydd eisiau hel enwau anffurfiol sy'n cael eu rhoi ar gaeau, neu graig neu ran o afon.

Daeth y syniad o siarad efo ffrindiau am yr enwau sy'n cael eu colli wrth i'r genhedlaeth hŷn ddiflannu, meddai.

"Y syniad ydy trio dal enwau sy'n mynd a dod ar lafar - dwi'n trio dal bratiaith ddaearyddol ardal mewn ffordd," meddai Dafydd sy'n gweithio ar ddatblygu meddalwedd mapiau i Gyngor Gwynedd wrth ei waith bob dydd.

"Efallai mai dim ond criw bach o bobl sy'n iwsio'r enw - mae'n hwyl cael clywed rhai ohonyn nhw, maen nhw o ddiddordeb i bobl ac maen nhw'n rhan o hanes ardal."

Bwlch Glas ac Ynys Gachu

Mae rhai o enwau ei bentref genedigol yn Nhrefor wedi ysbrydoli Dafydd hefyd.

"Mae gynnon ni Bwlch Glas yn Trefor, sydd ddim ar fap, sef traeth bach dan y clogwyn ac mae gynnon ni'r breakwater - Brêc mae pobl wedi alw fo erioed.

"Mae 'na Brêc Bach yna ac Ynys Gachu yefyd - sef ynys lle mae adar yn nythu sydd â baw drosti!

"Pan oeddan ni'n fach roedd 'na Gae Bach, lle roeddan ni i gyd yn chwarae - maes parcio sydd yno rŵan. Ond ro'n i'n siarad efo mam ac roedd ganddi hi gae bach hefyd, ond mewn lle gwahanol - cae ysgol Trefor oedd eu cae bach nhw.

"Felly mae'n rhyfedd fel mae gan bob cenhedlaeth enwau - mae'n siŵr fod gan bob pentref yng Nghymru gae bach lle roedd y plant yn chwarae.

"Mae pobl wedi rhoi petha' lawr ar y map yn barod - mae rhywun wedi rhoi lle yn Aberdaron lle roeddan nhw'n arfer crogi pobl."

Mae Dafydd yn gobeithio bod y map yn hawdd i bobl ei ddefnyddio ac y gall pobl lawrlwytho'r data i'w ddefnyddio fel maen nhw eisiau.

Mae Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru hefyd yn cynnal gweithdai i gofnodi enwau ac yn gweithio ar brosiect tebyg.

2,000 o fân enwau

Yn Aberteifi mae map arbennig gan Idris a Beryl Mathias sy'n cynnwys 2,000 o enwau lleol ar hyd afon Teifi yn cael ei dangos yr wythnos hon yng Ngŵyl y Cynhaeaf.

Mae Idris a Beryl wedi cofnodi miloedd o fân enwau sydd ynghlwm â'r afon a'i glannau ar fap amryliw fydd yn cael ei arddangos yn y Gyfnewidfa Ŷd yn ystod wythnos yr ŵyl.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Idris Mathias a'i wraig Beryl wedi cofnodi miloedd o fân enwau sydd ynghlwm â'r afon

Pynciau Cysylltiedig

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.