Rhyddhau dynes wrth i ymchwiliad llofruddiaeth barhau

Christopher Fish Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Cafodd Christopher Fish, 42, ei ddarganfod yn farw dydd Sadwrn

Mae dynes gafodd ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yng Nghaerdydd wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.

Roedd y ddynes 30 oed wedi cael ei harestio yn dilyn marwolaeth dyn yn ardal Pentwyn.

Cafodd Christopher Fish, oedd yn 42, ei ddarganfod yn farw mewn adeilad ddydd Sadwrn.

Mae ei deulu'n cael cefnogaeth swyddogion heddlu ac maen nhw'n annog unrhyw sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.

Pynciau Cysylltiedig