Adran Dau: Crawley Town 1-2 Casnewydd

Mickey Demetriou scores for Newport Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Sgoriodd Mickey Demetriou ddwywaith gyda'i ben

Dwy gôl gan yr amddiffynnwr Mickey Demetriou sicrhaodd fuddugoliaeth i Gasnewydd yn Crawley.

Rhoddodd Mark Connolly'r fantais i'r tîm cartre' wedi hanner awr gyda pheniad.

Ond atebodd Demetriou gyda dau beniad ei hun - un cyn hanner amser a'r llall wedyn.

Mae Casnewydd yn seithfed yn Adran Dau, gyda Crawley yn disgyn i'r 19eg safle.

Pynciau Cysylltiedig