Arallgyfeirio yn 'gyfle' i amaethwyr
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Arallgyfeirio yn 'gyfle' i amaethwyr sicrhau dyfodol

27 Medi 2017 Diweddarwyd 07:04 BST

Mae arallgyfeirio a chadw ieir buarth yn gyfle i amaethwyr sicrhau dyfodol eu fferm, yn ôl ymgynghorydd amaethyddol.

Dywedodd Wendy Jenkins o gwmni CARA fod wyau yn cynnig "incwm sy'n dod pob mis, yn wahanol falle i gig oen neu beef."

Roedd yn siarad wrth i ffrae godi yn Llangadog, Sir Gâr, am gynlluniau i godi cwt i 32,000 o gywion ieir.