Pryder yn Llangadog am gwt ffowls
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pryder yn Llangadog am gynlluniau cwt ffowls

27 Medi 2017 Diweddarwyd 07:01 BST

Mae teulu o Langadog, Sir Gâr, yn "colli cwsg" am gynlluniau i godi cwt i ddal 32,000 o gywion ieir yn y pentre'.

Yn ôl Colin Henry, mae'n poeni yn enwedig am fod ei fab a'i bump o blant yn byw "dafliad carreg" o'r safle.

Mae nifer yn lleol wedi datgan eu gwrthwynebiad i'r cynlluniau, ond mae swyddogion y cyngor o blaid cymeradwyo'r fenter.