Map Afon Teifi yn sbardun ar gyfer Gŵyl y Cynhaeaf

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae Idris Mathias a'i wraig Beryl wedi cofnodi miloedd o fân enwau sydd ynghlwm â'r afon

Map rhyfeddol o Afon Teifi fydd y sbardun ar gyfer Gŵyl y Cynhaeaf eleni yn Aberteifi.

Dyma'r eildro i'r ŵyl flynyddol gael ei chynnal yn y dref.

Mae brodor o'r dref, Idris Mathias, ynghyd â'i wraig Beryl, wedi cofnodi miloedd o fân enwau sydd ynghlwm â'r afon a'i glannau ar fap amryliw fydd yn cael ei arddangos yn y Gyfnewidfa Ŷd yn Aberteifi yn ystod wythnos yr ŵyl.

Fe ddechreuodd Idris ar y gwaith o gofnodi'r enwau ar ôl dychwelyd o'r fyddin ym 1945, ac fe gymrodd y map 17 mlynedd i'w gwblhau.

Image caption Bydd y map yn cael ei arddangos yn y Gyfnewidfa Ŷd yn ystod wythnos yr ŵyl

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, Dr David Thorne, sydd wedi astudio'r map: "Dyw'r enwau hyn ddim wedi cael eu cofnodi ar fapiau eraill... mae'r map yn cynnwys mân enwau o'r aber i bont Castellnewydd Emlyn.

"Mae rhai enwau yn dangos pwysigrwydd mân enwau... un ohonyn nhw yw 'Drws yr Eog'.

"Yn 1960, fe gyhoeddwyd bod yna gored neu drap pysgod canol oesol wedi ei darganfod yn yr aber... roedd rhaid arwain y pysgod ar hyd llwybr arbennig - sef Drws yr Eog.

"Mae hwnna'n dangos mor bwysig yw ystyried enwau lleoedd."

Image caption Fe gymrodd y map 17 mlynedd i'w gwblhau

Bydd y map i'w weld mewn arddangosfa fydd yn agor ar ddydd Mercher, 27 Medi yn y Gyfnewidfa Ŷd, ynghyd â lluniau'r ffotograffydd lleol Nerys Evans.

Fe fydd yna hefyd weithdai i ysgolion cynradd yng Nghastell Aberteifi, gweithdai i ysgolion uwchradd a thalwrn y beirdd yn y castell.

Ar nos Wener, bydd perfformiad sy'n addas i oedolion yn unig - fe fydd "Taith y Dablen" yn ymweld â nifer o dafarndai Aberteifi yn ystod y perfformiad.

Bydd yr ŵyl yn cloi ddydd Sadwrn gyda pherfformiad i blant - Helynt Ceridwen - yng Nghastell Aberteifi a Chlonc yr Ŵyl.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol