Theatrau Cymru 'angen staff Cymraeg'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Theatrau Cymru 'angen staff sy'n gallu'r Gymraeg'

26 Medi 2017 Diweddarwyd 06:49 BST

Mae angen i Gyngor y Celfyddydau gynnal adolygiad o sut mae'r iaith Gymraeg yn cael ei gefnogi yn y byd theatr yng Nghymru, yn ôl cadeirydd Pwyllgor Cymru Undeb Awduron Prydain, Manon Eames.

Daw ei sylwadau ar ôl i berson di-gymraeg o Loegr gael ei benodi'n Gyfarwyddwr Cyswllt newydd Theatr Sherman a phryderon hefyd nad yw Theatr Clwyd yn cynnig digon o gynyrchiadau yn y Gymraeg.

Ychwanegodd cyn-gyfarwyddwr artistig Theatr Sherman, Mared Bryn ei bod yn bryderus am y ffaith nad yw cyfarwyddwr cyswllt newydd y theatr yn siarad Cymraeg, gan ddweud bod angen staff sy'n gallu'r iaith i feithrin talent o Gymru.