Anafiadau difrifol i ferch, 11, mewn gwrthdrawiad A5

pentrefoelas Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ger Pentrefoelas yn Sir Conwy

Mae merch 11 oed wedi ei hanafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad ffordd ger Pentrefoelas yn Sir Conwy.

Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw toc wedi 16:00 yn dilyn adroddiadau bod cerbyd Vauxhall Corsa wedi taro cerddwr ar yr A5.

Bu'n rhaid cludo'r ferch mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl yn dilyn y digwyddiad.

Mae'r ffordd yn parhau i fod ynghau yn dilyn y gwrthdrawiad, ac mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y car ychydig cyn hynny i gysylltu â nhw.