Diwrnod da i fowlwyr Morgannwg

hogan Image copyright Getty Images
Image caption Mae gan Michael Hogan ffigyrau o 4 am28 yn yr ail fatiad

Fe ddechreuodd Morgannwg yr ail ddiwrnod yn erbyn Caint ar 18 am 1 wiced, ond yn fuan iawn aeth pethau ar chwâl.

Ar un cyfnod roedd yr ymwelwyr yn 65 am 5, cyn i gyfraniadau cadarn, os nad disglair, gan Chris Cooke, Craig Meschede a Ruaridh Smith godi'r cyfanswm i 229 erbyn diwedd y batiad.

Ond yna daeth bowlwyr Morgannwg i'r canol a dechrau chwalu ail fatiad Caint.

Unwaith eto, Michael Hogan oedd prif fygythiad Morgannwg, gan gipio pedair wiced am 28 rhediad gan gynnwys Joe Denly - a sgoriodd 152 yn y batiad cyntaf - cyn iddo sgorio o gwbl.

Cafodd Smith ddwy wiced hefyd gan sicrhau bod Caint yn gorffen y dydd ar 98 am 6 - mantais o 171 gyda phedair wiced yn weddill.

Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2 - Caint v. Morgannwg:

Caint (batiad cyntaf) = 302 (Joe Denly - 152)

(ail fatiad) = 98 am 6

Morgannwg (batiad cyntaf) = 229