Achub cerddwr o Gymru o dwll mwyngloddio yng Nghernyw

Achub

Mae dyn o Gymru wedi ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl disgyn "25 metr" i lawr twll mwyngloddio yng Nghernyw.

Fe gymerodd hi chwe awr i dimau achub a'r gwasanaeth tân gyrraedd Andrew Williams a'i gludo i fan diogel.

Roedd Mr Williams, sy'n 51 ac o Fro Morgannwg, yn cerdded yn ardal Porth Nanven.

Fe ddioddefodd anafiadau i'w glun a'i goes ac effeithiau'r oerfel.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn yn rhan o grŵp o gerddwyr oedd ar wyliau yn yr ardal a'i fod yn gerddwr profiadol.