Uwch Gynghrair Lloegr: Tottenham Hotspur 0-0 Abertawe

Abertawe Image copyright Getty Images

Fe wnaeth perfformiad disgybledig sicrhau gêm gyfartal ddi-sgôr i'r Elyrch gyda Tottenham Hotspur yn Wembley ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth y tîm cartref fwynhau 75% o'r meddiant ac fe lwyddon nhw i gael 24 ergyd, ond doedden nhw ddim yn gallu canfod ffordd heibio i amddiffyn cadarn Abertawe.

Ni lwyddodd yr Elyrch i daro'r targed gyda'r un o'u pedair ergyd nhw.

Dyma'r tro cyntaf mewn 30 gêm gartref i Tottenham fethu â sgorio.

Ymosodwr Lloegr Harry Kane gafodd gyfle gorau'r gêm, gan daro'r traws gydag ergyd yn y 58fed munud.

Mae'r canlyniad yn gweld y clwb o dde Cymru yn codi i'r 14eg safle yn Uwch Gynghrair Lloegr.