Buddugoliaeth hawdd i Sir Northampton yng Nghaerdydd

Northants Image copyright Huw Evans picture agency

Cafodd Morgannwg eu trechu'n hawdd o saith wiced gan Sir Northampton yng Nghaerdydd wrth i'w tymor gwael ym Mhencampwriaeth y Siroedd barhau.

Fe wnaeth Simon Kerrigan (62) a Rob Newton (53) sicrhau na fyddai'n ddiwrnod olaf nerfus i'r ymwelwyr, wrth iddyn nhw gyrraedd 221-3 i ennill o saith wiced.

Roedd gan Forgannwg fantais o 175 rhediad ar ddechrau'r diwrnod, gyda Sir Northants â naw wiced yn weddill.

Ond ar ddiwrnod ble roedd angen i fowlwyr Morgannwg serennu, batwyr yr ymwelwyr oedd ar eu gorau.

Dim ond dwy o'u 12 gêm mae Morgannwg wedi ennill yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd y tymor yma, ac maen nhw yn seithfed allan o 10 yn y tabl.

Pynciau Cysylltiedig