Cymru mewn trafodaethau i gynnal y Giro d'Italia

Giro d'Italia Gogledd Iwerddon Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Gogledd Iwerddon gynnal cymalau o'r Giro d'Italia yn 2014

Gallai Cymru gynnal cymal o ras seiclo'r Giro d'Italia yn dilyn "trafodaethau cadarnhaol" rhwng Llywodraeth Cymru a'r perchnogion RCS.

Bu cynrychiolwyr o RCS yn mynychu cymal olaf y Tour of Britain yng Nghaerdydd y penwythnos diwethaf fel rhan o drafodaethau cynnar.

Dywedodd llefarydd o Lywodraeth Cymru eu bod yn "parhau â'r trafodaethau cadarnhaol iawn gyda RCS am gynnal y Giro d'Italia".

"Roedd yr ymweliad yma yn gyfle gwych i arddangos Cymru, i ddechrau magu perthynas," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn awyddus ers peth amser i gynnal cymal o un o rasys Grand Tour y byd seiclo - y Giro d'Italia, y Tour de France neu'r Vuelta a Espana.

'Trafod y posibiliadau'

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, ym mis Mehefin bod trafodaethau cychwynnol wedi'u cynnal â threfnwyr y Tour de France.

"Rydyn ni eisoes wedi trafod ein huchelgais i gynnal un o'r rasys Grand Tour yn y dyfodol," meddai llefarydd o Lywodraeth Cymru.

"Yn y blynyddoedd diwethaf ry'n ni wedi cysylltu â pherchnogion y tair ras, ac wedi bod yn awyddus i drafod y posibiliadau.

"Mae trefnwyr y Tour de France, yr ASO, wedi dweud nad oes cyfle yn y tymor byr i Gymru gynnal cymal cyntaf y ras honno."

Mae mwyafrif y Giro yn cael ei gynnal yn Yr Eidal, ac mae gwledydd cyfagos fel Ffrainc, Y Swistir ac Awstria yn croesawu cymalau yn aml.

Ond mae'r trefnwyr wedi bod yn barod i fynd ymhellach hefyd, gyda'r gwledydd megis Groeg, Denmarc ac Iwerddon wedi cynnal cymalau.