Llofruddiaeth Y Rhyl: Dyn yn y llys

Rhyl
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad yn Llys Aderyn Du, Rhyl, nos Sadwrn 9 Medi

Mae dyn 21 oed wedi bod o flaen llys ar gyhuddiadau o lofruddio a cheisio llofruddio, yn dilyn digwyddiad ar ystad dai yn Y Rhyl.

Cafodd Redvers James Bickley o Lys Aderyn Du yn y Rhyl ei gadw yn y ddalfa gan ynadon yn Llandudno, ac mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau.

Siaradodd i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni yn unig.

Image copyright Llun Teulu
Image caption Bu farw Tyler Denton o'i hanafiadau

Mae'n cael ei gyhuddo o lofruddio Tyler Denton, 25 oed, a cheisio llofruddio dyn a dwy ddynes o'r Rhyl.

Bu'n rhaid i'r tri - Paul, Cody a Shannen Denton - gael triniaeth ysbyty yn dilyn y digwyddiad.

Pynciau Cysylltiedig