Mene, Mene, Tecel, Wparsin.

Roeddwn i'n arwain y gwasanaeth pen-blwydd yng nghapel Groeswen, Caerffili dros y Sul gan gyflawni hen ddyletswydd deuluol. Fy hen daid wnaeth arwain y gwasanaeth i ddathlu'r cant a hanner, fy nhad-cu oedd wrthi yn y ddau ganmlwyddiant a siaradodd fy nhad i nodi'r ddau gant a hanner. Tro fi oedd hi felly wrth i'r lle gyrraedd y 275.

Fe ddaeth un o'r selogion â rhaglen dathliadau'r ddau ganmlwyddiant 1942 i'r lle i ddangos i fi ac roedd hi'n dipyn o ryfeddodd i weld cymaint o sbloets wnaethon nhw o'r peth. Cynhaliwyd saith oedfa i gyd dros benwythnos gŵyl y banc, pedair ar y dydd Sul a thair ar y dydd llun gan gynnwys un oedfa Saesneg lle, yn ôl y rhaglen, "Dr H Elfed Lewis M.A. will broadcast to the Empire". Rwy'n siŵr fod Montgomery a Rommel wedi rhoi'r gorau i gwffio i wrando ar honna!

Yr hyn sy'n rhyfedd braidd oedd bod y capel eisoes wedi gwanhau'n ddifrifol pan gynhaliwyd y dathliadau. Doedd dim gweinidog wedi bod yno ers 1926, roedd y nifer yn yr oedfaon yn gostwng a'r genhedlaeth nesaf o blant yr ardal yn cael eu magu'n ddi-Gymraeg.

Roedd yr ysgrifen ar y mur ond neb yn fodlon ei darllen. Roedd dyddiau'r frenhiniaeth wedi eu rhifo ond rhaid oedd cadw'r hen ddefodau i fynd. Mene, Mene, Tecel, Wparsin.

Mae'r peth hyd yn oed yn fwy gwir heddiw. Mae'r rhan fwyaf o bensaernïaeth drefniadol Anghydffurfiaeth Gymreig o hyd yn bodoli, y cyfarfodydd chwarter, y cymdeithasfaoedd a'r gweddill fel rhyw hen westy crand lle does bron neb yn dod i aros bellach.

Mae 'na rywbeth tebyg wedi bod yn digwydd i'r blaid Geidwadol. Mae'r strwythurau bron i gyd dal yna, y pencadlys, y cynadleddau, y pwyllgorau ac yn y blaen ond lle ar y ddaear mae'r aelodau? Mae'r blaid wedi gwrthod cyhoeddi unrhyw ffigyrau ynghylch ei haelodaeth ers 2013. 149,800 o aelodau oedd 'na bryd hynny ac mae'n debyg bod y nifer wedi gostwng ers hynny.

Yn wir, mae'n ddigon posib bod y blaid Geidwadol, oedd â dwy filiwn o aelodau ar un adeg, bellach yn llai ei maint na Llafur (552,000), yr SNP (118,000) a hyd yn oed y Democratiaid Rhyddfrydol (102,000).

Oes ots? Wel oes, tad! Mewn cyfres o erthyglau deifiol ar wefan Conservative Home priodolir llawer o broblemau'r blaid yn etholiad eleni i'r diffyg trŵps ar lawr gwlad. Doedd dim digon ohonyn nhw ac roedd y rheiny oedd yn bodoli yn ymgyrchu yn y llefydd anghywir. Rhaid gwneud rhywbeth meddir, a hynny ar fyrder - ond beth?

Draw ar wefan Liberal Democrat Voice dywed Paddy Ashdown fod yr hen bleidiau hierarchaidd yn marw ar eu traed. Mae'r dyfodol yn perthyn, meddai fe, i fudiadau fel Momentwm, y Movimento 5 Stelle ac En Marche. Dyma'i esboniad o'u llwyddiant.

"...an internet based model which enables mass younger membership, flat low cost management, modest entry fees, direct democracy, constant engagement, high participation and the opportunity to take part in politics as just one of the multi-transactional things we do in our busy lives."

Os ydy Paddy Ashdown yn iawn mae gan y blaid Geidwadol broblem. Mae'r fath yna o drefniadaeth yn gwbl groes i ddaliadau craidd y blaid ynghylch y ffordd y dylai cymdeithas weithio. Y grym yn nwylo'r aelodau? Nefar in Ewrop, gwd boi!