Morgannwg yn dibynnu ar y bowlwyr yn erbyn Northants

salter Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Y troellwr Andrew Salter oedd arwr Morgannwg gyda'r bat

Diwrnod gweddol gafodd Morgannwg ar ddiwrnod cynta'r gêm yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd yn erbyn Sir Northants yng Nghaerdydd, ond fe allai fod wedi bod ynn llawer gwaeth.

Ar ôl galw'r gywir a dewis batio, roedd y tîm cartref mewn trafferthion mawr ar un cyfnod, gyda'r sgôr ar 102 am chwe wiced.

Dyna pryd y daeth Andrew Salter a Craig Meschede at ei gilydd yn y canol gan lwyddo i bron ddyblu'r cyfanswm.

Fe aeth Meschede un yn brin o'r hanner cant, ond aeth Salter ymlaen i gyrraedd 59 wrth i fatiad Morgannwg ddod i ben ar 207.

Richard Gleeson wnaeth y difrod i'r ymwelwyr gyda ffigyrau campus o bum wiced am 60.

Ar ddechrau batiad Northants roedd angen hoe ar y ddau fowliwr, ond gyda Lukas Carey a Marchant De Lange yn agor y bowlio gyda chymorth wedyn gan Michael Hogan, fe lwyddodd Morgannwg i gipio tair wiced cyn i olau gwael ddod â chwarae'r diwrnod i ben yn gynnar.

Erbyn hynny roedd yr ymwelwyr wedi cyrraedd 59 am ddwy wiced.

Pynciau Cysylltiedig