Y Bencampwriaeth: Preston North End 3-0 Caerdydd

Caerdydd Image copyright Getty Images

Fe roddodd Preston gweir i Gaerdydd nos Fawrth wrth i'r Adar Gleision golli am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor yma.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf wrth i Josh Harrop daro cic rydd isel heibio golwr Caerdydd, Neil Etheridge.

Dyblwyd mantais Preston gydag 20 munud yn weddill wrth i Sean Maguire sgorio o ongl dynn.

Daeth gôl orau'r gêm gan Alan Browne ychydig funudau'n ddiweddarach, wrth iddo godi'r bêl dros Etheridge o 45 llath.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn colli eu lle ar dop y tabl, wrth i Leeds United gymryd eu lle ar y brig.