Deiseb yn galw am ailagor gorsaf drenau Carno

Ymgyrch gorsaf Carno
Image caption Amcangyfrir y byddai'n costio £1.67m i ailagor gorsaf Carno ym Mhowys

Mae deiseb newydd yn cael ei pharatoi gan bobl yng Ngharno ym Mhowys yn galw am ailagor yr orsaf rheilffordd yn y pentref.

Cafodd gorsaf Carno sydd ar linell y Cambrian ei chau o ganlyniad i ddiwygiadau'r Arglwydd Beeching ar y rheilffyrdd yn y 1960au.

Lle roedd trenau yn arfer aros, maen nhw nawr yn gwibio trwy'r pentref ar gyflymder o 60mya - gan basio'r hen blatfform lle mae coed a llwyni'n tyfu.

Cafodd deiseb debyg gefnogaeth dros 800 o bobl pan gafodd ei chyflwyno i bwyllgor deisebau'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2007.

"Mae'r grŵp yn teimlo'n rhwystredig iawn," meddai Jeremy Barnes, Cadeirydd Grŵp Gweithredu Gorsaf Carno. "Ry'n ni'n cynhyrchu deiseb newydd gan ei bod hi'n ddegawd ers yr un gyntaf ac mae'n rhaid i ni ddal ati a chadw proffil Carno mor uchel ag sy'n bosib.

"Dw i'n meddwl y byddwn ni'n cyrraedd y nod yn y pen draw - ond pryd? Mae hynny'n gwestiwn arall."

'Gorsaf yn fendith'

Mae'r orsaf agosaf i Carno yng Nghaersws, sydd chwe milltir i ffwrdd. Mae'r ymgyrchwyr yn dweud bod eu pentref nhw wedi'i leoli ar y rhan hiraf o reilffordd yng Nghymru sydd heb orsaf yn y canol - mae 'na 22 o filltiroedd rhwng yr orsaf yng Nghaersws ar y naill ochr a gorsaf Machynlleth ar y llall.

Amcangyfrif y gost o ailagor gorsaf Carno yw £1.67m.

Yn ôl aelodau'r grŵp gweithredu, byddai ailagor yr orsaf yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl y pentre'.

Dywedodd Bernard Evans, sy'n cydlynu'r ddeiseb newydd: "Dw i'n nabod o leia' hanner dwsin o bobl - nyrsys sy'n gweithio yn Aberystwyth - sy'n gorfod mynd lawr am 06:30 bob bore i Gaersws i ddal y trên.

"Dwi'n gobeithio y tro yma y cawn ni bres."

Image caption Does dim trên wedi galw yng ngorsaf Carno ers 1962

Dywedodd Clem Richards, aelod arall o'r grŵp, y byddai cael yr orsaf yn ôl yn fendith i bobl Carno.

"Mae 'na ddigon o bobl ifanc yma sy'n gorfod rhedeg car er mwyn gallu mynd i'r gwaith. A dyw rhedeg car, ar ben talu am gostau cadw tŷ, ddim yn rhad," meddai.

"Byddai'n llawer gwell, a rhatach iddyn nhw, pe tasen nhw'n gallu dal y trên o'r pentref."

Gorsaf Bow Street

Cafodd y grŵp gweithredu ei sefydlu yn 2002, ac wrth redeg eu hymgyrch eu hunain mae'r aelodau hefyd wedi rhoi cyngor i bobl mewn cymuned arall - Bow Street ger Aberystwyth - a oedd yn ystyried ceisio ymgyrchu dros ailagor gorsaf yn eu pentref nhw.

Ym mis Gorffennaf eleni, daeth y cyhoeddiad bod yr arian angenrheidiol wedi cael ei glustnodi ar gyfer gorsaf newydd yn y pentref.

Dywedodd Llywodraeth San Steffan y byddai'n cyfrannu £4m, gyda £2.8m arall yn dod gan Lywodraeth Cymru.

Mewn ymateb i'r newyddion dywedodd Jeremy Barnes: "Mae gan brosiect Bow Street yr holl arian sydd ei angen arno nawr, ac ry'n ni'n teimlo y dylai'n prosiect ni gymryd ei le o fewn y system."

Image copyright Cyngor Ceredigion
Image caption Cafodd y cynlluniau ar gyfer gorsaf Bow Street, Ceredigion eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf y llynedd

Os yw hynny'n digwydd, y gobaith yng Ngharno yw y bydd prosiect yr orsaf yno'n cael ei ystyried am gefnogaeth ariannol yn y dyfodol agos.

I'w wireddu byddai angen llai na thraean y cyfanswm sydd wedi'i glustnodi ar gyfer Bow Street.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fyddan nhw'n darparu diweddariad ar sefyllfa gorsaf Carno ar hyn o bryd, ond yn y gorffennol maen nhw wedi dweud eu bod wedi "ymrwymo i wella trafnidiaeth trên ar gyfer teithwyr ym mhob rhan o Gymru", a'u bod wedi "gwneud cais i Lywodraeth y DU am arian ar gyfer nifer o orsafoedd newydd".

Dywedodd Grŵp Gweithredu Gorsaf Carno y bydd yr ymgyrch yn parhau hyd nes bod arian wedi'i glustnodi ar gyfer y prosiect, er mwyn sicrhau bod y trenau sy'n gwibio trwy'r pentref ar hyn o bryd, yn aros yno.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol