Pro14: 'Mater o amser' cyn i'r gynghrair ehangu i UDA

Martin Anayi, Gerald Davies a Jurie Roux Image copyright Getty Images
Image caption Martin Anayi (chwith) yn lansio'r gynghrair ar ei newydd wedd ym mis Awst gyda Gerald Davies a Jurie Roux

Dim ond "mater o amser" yw hi nes bod cynghrair y Pro14 yn ehangu eto, yn ôl y prif weithredwr.

Fe ymunodd dau dîm o Dde Affrica - y Cheetahs a'r Southern Kings - â'r bencampwriaeth ar gyfer y tymor sydd newydd gychwyn.

Mae Martin Anayi yn dweud eu bod wedi derbyn "achosion busnes cadarn" i ehangu i arfordir dwyreiniol UDA.

"Fe fydd y ddau dîm o Dde Affrica yn newid ein gêm ac yn newid ein pencampwriaeth ac os 'dyn ni'n cael hynny'n iawn, yna ddylen ni ddim stopio yn fanno," meddai Mr Anayi wrth The Times.

"Fe fydden ni'n edrych i ehangu eto ar ryw bwynt. Mae'n rhaid i ni wneud pethau mewn ffordd wahanol. Rhaid bod yn ddyfeisgar pan mae'n dod at America."

Mae'r Cheetahs a'r Kings wedi cael dechrau caled i'r tymor, gyda'r ddau dîm yn colli eu dwy gêm gyntaf yn erbyn rhanbarthau o Gymru ac Iwerddon.

Pynciau Cysylltiedig