'Dadl dda' dros gadw pwerau yn San Steffan wedi Brexit

David Jones
Image caption David Jones yw'r AS Ceidwadol dros Orllewin Clwyd

Mae "dadl dda" dros gadw rhai pwerau sydd gan yr UE ar hyn o bryd gyda Llywodraeth y DU yn hytrach na Llywodraeth Cymru, yn ôl cyn-weinidog cabinet.

Ar hyn o bryd, mae'r ddwy lywodraeth yn anghytuno dros beth fydd yn digwydd i bwerau fel cymorthdaliadau ffermwyr a chymorth economaidd rhanbarthol pan fydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae amaeth a datblygu economaidd yn feysydd sydd yn cael eu rheoli gan Lywodraeth Cymru, ac mae gweinidogion ym Mae Caerdydd eisiau i rymoedd yr UE yn y meysydd hynny gael eu trosglwyddo'n syth iddyn nhw.

Ond mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cadw'r pwerau dros dro, cyn penderfynu ar ddatrysiad hir dymor.

'Ras i'r gwaelod'

Dywedodd David Jones, sydd yn gyn-Ysgrifennydd Cymru, wrth BBC Cymru fod achos dros gadw rhai materion fel rhan o gyfrifoldebau'r DU gyfan.

"Mae'r undebau ffermwyr, gan gynnwys y rhai yng Nghymru, yn cydnabod fod angen fframwaith DU-gyfan ar gyfer polisi amaethyddol unwaith 'dyn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd," meddai.

"Fel arall dwi'n meddwl y bydden ni'n cael ras i'r gwaelod o ran amaeth rhwng ardaloedd datganoledig gwahanol y wlad.

"Felly dwi'n meddwl fod dadl dda dros ddweud y dylai rhai pwerau aros ar lefel DU fel bod modd eu defnyddio'n iawn.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae amaeth yn un o'r meysydd ble mae anghytuno ynglŷn â phwerau wedi Brexit

"Bydd eraill yn cael eu pasio i'r sefydliadau datganoledig a dwi'n meddwl mai'r hyn sydd angen i ni wneud yw sicrhau fod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r sefydliadau datganoledig er mwyn sicrhau'r lefel cywir ar gyfer bob pŵer penodol."

Yr wythnos diwethaf fe ddywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones fod "peth ffordd i fynd" cyn bod Llywodraeth Cymru'n gallu cefnogi'r mesur i symud cyfreithiau'r UE i San Steffan.

Mynegodd bryder y byddai pwerau ar faterion datganoledig yn cael eu symud o Frwsel i Lundain ar ôl Brexit, heb sicrwydd y byddan nhw'n symud wedyn i'r Cynulliad.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, fod "mwy o bwerau'n sicr o ddod i Gymru" wedi'r broses.

Pynciau Cysylltiedig