Cynlluniau i ehangu gwasanaeth i adferwyr cyffuriau

Catrin a Steph
Image caption Mae Catrin Owen (chwith) a Steph Jones (dde) wedi cael cefnogaeth i wella ar ôl bod yn Nhŷ Penrhyn ym Mangor

Mae rhaglen y Post Cyntaf wedi datgelu fod cynlluniau ar y gweill i ymestyn gwasanaeth yn y gogledd i helpu pobl sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol.

Cafodd canolfan adferiad Tŷ Penrhyn ym Mangor ei sefydlu dwy flynedd yn ôl, ac mae bellach yn cynnig cefnogaeth i dros ugain o breswylwyr, yn ogystal ag ymwelwyr dyddiol o fewn y gymuned.

Mae'r adferwyr cyffuriau sydd yno yn cael eu hannog i ddod yn entrepreneuriaid er mwyn eu helpu i wella, a rhoi profiad iddyn nhw yn y byd gwaith go iawn.

Mae rhai wedi dechrau busnes glanhau carpedi, tra bod eraill y darparu ffrwythau a llysiau i fwytai lleol, neu'n cynhyrchu a gwerthu jamiau.

'Rhywbeth positif'

Yn ôl y rhai sydd y tu ôl i'r cynllun, mae'r fenter yn ffordd i'r unigolion ganolbwyntio ar rywbeth arall a datblygu eu hyder.

Dywedodd Rheolwr Tŷ Penrhyn, James Deakin: "Mae weithiau yn anodd i rywun sydd yn gwella ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau i gael gwaith arwyddocaol.

"Mae bylchau yn eich cyflogaeth ac weithiau record droseddu yn golygu bod hi'n anodd argyhoeddi cyflogwyr i gynnig gwaith i chi.

"Os ydy pobl yn gallu symud o fan hyn gyda rhywbeth positif ar eu CV, mae gyda nhw fwy o obaith cael swydd. Mae tipyn wedi cael eu cyflogi."

Image caption Mae rhai o'r trigolion wedi bod yn gwerthu ffrwythau a llysiau i fwytai lleol

Ychwanegodd: "Mae gyda ni bobl sydd â chyfleusterau i gadw gwenyn, ac eraill yn gwneud nwyddau cosmetig o gwyr gwenyn.

"Mae'r trigolion yn tyfu llysiau a ffrwythau organig ac mae dau dŷ bwyty wedi cytuno i'w darparu.

"Dim ond ers 12 wythnos mae'r busnes glanhau carpedi wedi dechrau, ond mae 'na un person yn gweithio llawn amser ar y busnes yma."

Ehangu darpariaeth

Yr elusen Gwasanaeth Gwellhad Gogledd Cymru, neu NWRC, sydd yn gyfrifol am y ganolfan ar gyrion Bangor.

Cafodd ei hagor ym mis Mai 2015 ac maen nhw wedi trin rhwng 700 ac 800 o bobl ers hynny.

Ar hyn o bryd maen nhw'n cynnig cefnogaeth i dros 20 o breswylwyr, yn ogystal ag ymwelwyr dyddiol o fewn y gymuned.

Mae rheolwyr yno yn gobeithio ehangu'r gwasanaeth yn y gogledd yn y dyfodol.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Hanes Catrin, Steff a Gareth yng nghanolfan Tŷ Penrhyn.

Bu'r Post Cyntaf wedi bod draw yn Nhŷ Penrhyn yn siarad gyda rhai o'r bobl yno.

Roedd Catrin Owen yn cymryd cyffuriau am 10 mlynedd.

15 oed oedd hi pan wnaeth hi ddechrau ysmygu canabis. Flwyddyn wedyn roedd hi'n yfed alcohol ac yna fe wnaeth hi droi at gyffuriau eraill.

"Nathan ni neud hynny, jest ar weekends ac wedyn nathan ni ddechrau cymryd speed wedyn. Oddan ni yn seshio o ddydd Gwener tan ddydd Sul, neb yn cysgu na dim byd," meddai.

Hogan 'ddiniwed'

Ychydig fisoedd wedyn fe wnaeth hi drio heroin am y tro cyntaf.

"18 ar y pryd o'n i. O'n i'n hogan reit fatha ddiniwed a jest naive... o'n i ddim yn dallt be o'n i'n cael fy hun i mewn nes ar ôl chwe mis... deffro un bore a jyst yn teimlo'n sâl, taflu fyny.

"O'n i'n meddwl oh my god be sy'n wrong hefo fi... dyna pryd wnes i sylwi wedyn bo fi 'di cael habit ar yr heroin."

Nawr mae Catrin yn 28 oed a dyw hi heb gymryd cyffuriau ers pedwar mis. Does ganddi ddim bwriad ail gychwyn eto, meddai.

Achubiaeth trwy'r ganolfan

Un arall sy'n defnyddio'r ganolfan ers bron i flwyddyn ydi Steph Jones. Mi ddechreuodd hi gymryd amffetamin wyth mlynedd yn ôl ond dydi hi heb eu cyffwrdd ers bron i flwyddyn.

"Cyn dod yma o'n i'n pwyso chwe stôn saith pwys, ddim yn picture of health... a bellach yn pwyso 10 stôn chwech [pwys]. Dwi wedi rhoi pedwar stôn ymlaen mewn blwyddyn."

Mae'r ddwy wedi bod yn cael cyfle i gymryd rhan mewn triniaethau therapiwtig, sy'n cynnwys gwneud a gwerthu jam, tyfu llysiau a chadw ieir.

Maen nhw'n edrych ymlaen at groesawu moch a gwenyn i'r ganolfan yn fuan hefyd, ac yn dweud na fydden nhw wedi gallu rhoi'r gorau i gymryd cyffuriau heb y gefnogaeth yn Nhŷ Penrhyn.

Mae modd cysylltu gyda sefydliadau sy'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ar gyffuriau trwy ffonio 03703500600.

Pynciau Cysylltiedig