Dirwy i Gymro am nofio ar draws Argae Hoover yn yr UDA

Argae Hoover Image copyright Getty Images

Mae dyn o Gymru wedi cael dirwy gan heddlu'r Unol Daleithiau ar ôl nofio ar draws afon Colorado wrth ymyl Argae Hoover.

Roedd Arron Hughes, 28, ar benwythnos stag pan benderfynodd blymio i'r dyfroedd ar y ffin rhwng Arizona a Nevada ger Las Vegas ar 8 Awst.

Pan ddaeth allan o'r dŵr roedd yr heddlu yn aros amdano, ac fe gafodd ei arestio a chael $330 (£250) o ddirwy.

Ond mynnodd y gŵr o Ruthun, Sir Ddinbych, nad oedd wedi gweld unrhyw arwyddion yn dweud nad oedd hawl nofio ger yr argae.

"Fe gyrhaeddon ni yno ac roedd hi'n chwilboeth. Nes i feddwl i fy hun 'Dwi'n mynd mewn am drochiad'," meddai.

"Dwi ddim yn difaru'r penderfyniad o gwbl. Mae gen i hyd yn oed datŵ sy'n dweud 'no regrets', dyna'r math o berson ydw i."