Glasgow 31-10 Gweilch

Sgoriodd Alex Dunbar ddwywaith i Glasgow Image copyright SNS
Image caption Sgoriodd Alex Dunbar ddwywaith i Glasgow wrth i'r Gweilch adael y ddinas yn waglaw

Colli yn Glasgow oedd hanes y Gweilch yn eu hail gêm yn Adran A y Pro 14.

Adeiladodd Glasgow fantais glir yn yr 20 munud cyntaf gyda chais Alex Dunbar a throsiad a chic gosb Finn Russell.

Ond tarodd y Gweilch yn ôl yn fuan wedyn gyda chais Dan Evans a throsiad Sam Davies, cyn i Davies ei gwneud hi'n 10-10 gyda chic ola'r hanner cyntaf.

Er hynny, ailsefydlu eu mantais wnaeth Glasgow yn yr ail gyfnod, gyda cheisiadau i Leo Sarto, Adam Ashe a Dunbar yn rhoi buddugoliaeth gyfforddus i'r tîm o'r Alban.

Pynciau Cysylltiedig