Casnewydd 0-0 Wycombe Wanderers

bathodyn Casnewydd Image copyright Getty Images

Di-sgôr oedd hi rhwng Casnewydd a Wycombe yn Adran Dau brynhawn Sadwrn.

Roedd cyfleoedd i'r ddau dîm, gyda Padraig Amond yn dod yn agos i'r Alltudion yn yr hanner cyntaf.

Cafodd yr ymwelwyr eu hatal ar fwy nac un achlysur gan Joe Day yn y gôl, cyn i Amond fethu cyfle arall yn hwyr yn y gêm.

Mae Casnewydd bellach yn y 12fed safle yn y tabl.

Pynciau Cysylltiedig