Pro14: Caeredin 35-18 Dreigiau

gavin henson
Image caption Gavin Henson wnaeth sgorio holl bwyntiau'r Dreigiau

Sicrhaodd Caeredin fuddugoliaeth pwynt bonws dros y Dreigiau yn Myreside i godi i frig Adran B y Pro14.

Y Dreigiau gafodd y gorau o'r cyfnod agoriadol, gyda chic gosb ac yna gôl adlam gan Gavin Henson yn rhoi'r ymwelwyr chwe phwynt ar y blaen ar ôl 15 munud.

Fe darodd Caeredin yn ôl gyda dwy gic gosb gan Duncan Weir, cyn i Blair Kinghorn orffen symudiad gwych ar gyfer cais gyntaf y gêm, a Weir yn ychwanegu'r trosiad.

Yn fuan wedi hynny cafodd Weir gerdyn melyn, ac fe fanteisiodd y Dreigiau wrth roi pwysau ar linell Caeredin a chael cic gosb arall cyn yr egwyl gafodd ei throsi gan Henson.

Ceisiau hwyr

Daeth ail gais y tîm cartref yn fuan yn yr ail hanner, gyda Sam Hidalgo-Clyne yn croesi wedi i Kinghorn ganfod bwlch yn yr amddiffyn.

Ychwanegodd Weir y trosiad, cyn i dair cic gosb arall gan Henson ddod â'r bwlch lawr i ddau bwynt.

Ond wedi i Weir drosi cic gosb arall llwyddodd Junior Rasolea i groesi yn y gornel gyda 12 munud i fynd i ymestyn mantais Caeredin unwaith eto.

Seliwyd y fuddugoliaeth a'r pwynt bonws gyda chais Robbie Fruean bum munud o'r diwedd.